Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

CYPE(4)-04-14 – Papur 1

 

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog: Y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi

 

Dechrau’n Deg

 

Cyllid

Cyn 2012-13, dyrannwyd cyllid Dechrau’n Deg i bob awdurdod lleol gan ddefnyddio Fformiwla Asesiad o Wariant Safonol Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, sy’n defnyddio amrywiaeth o ddangosyddion o’r grŵp oedran 0-18 oed.  Fodd bynnag, mae’r data a ddefnyddir i lywio’r dull hwn bellach yn hen.  Yn ogystal, gan ei fod yn seiliedig ar blant 0-18 oed, nid yw’n cyd-fynd â’r ystod oed o blant sy’n gymwys ar gyfer gwasanaethau Dechrau’n Deg.

 

Er y bydd y ddarpariaeth bresennol yn parhau i gael ei chyllido, er mwyn lleihau cythrwfl o fewn y meysydd targed presennol, mae’r sail a ddefnyddir i ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer ehangu’r rhaglen yn deillio o’r nifer a aseswyd o blant 0-3 oed sy’n byw mewn aelwydydd sy’n cael budd-dal incwm mewn ardaloedd awdurdod lleol.

 

Bydd y dull diweddaraf i gyfrifo dyraniadau refeniw awdurdodau lleol yn gymwys o 2015-2016.

 

Mae cyllideb Dechrau’n Deg ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a’r tair blynedd ariannol nesaf i’w gweld fel a ganlyn:

 

Dechrau’n Deg

2013-14

2014-15

2015-16

Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL) Refeniw

£61.550m

£72.1m

£77.1m

BEL Cyfalaf

£13m

£8m

£2m

 

 

Dyblu nifer y plant sy’n cael budd o Dechrau’n Deg erbyn 2016

Mae Dechrau’n Deg yn gweithredu mewn ardaloedd penodol, sef ardaloedd sydd â’r gyfran uchaf o blant o dan bedair oed sy’n byw mewn aelwydydd sy’n cael budd-dal incwm, ac mae’n darparu cyfres gyffredinol o hawliadau i’r teuluoedd hynny yn yr ardal sydd â phlentyn o dan bedair oed.  Nid oes prawf modd i ddefnyddio’r gwasanaethau.

 

Mae dyblu nifer y plant sy’n cael budd o Dechrau’n Deg yn un o ymrwymiadau ‘Pump am Ddyfodol Tecach’ y Rhaglen Lywodraethu ac mae’n fuddsoddiad â tharged i helpu plant a’u teuluoedd yn y blynyddoedd cynnar.  Mae hyn yn cynrychioli estyniad fesul cam i gynyddu nifer y plant o dan 4 oed a’u teuluoedd sy’n cael budd o’r rhaglen o 18,000 i 36,000 erbyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2016.

 

Yn dilyn cyhoeddi bod y rhaglen am gael ei hehangu, cyflwynodd pob awdurdod lleol ‘Cynllun Strategol 3 Blynedd’ yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer ehangu yn eu hardal nhw.

 

Mae nifer y plant y gobeithir y byddant yn cael budd o’r rhaglen ar gyfer pob blwyddyn fel a ganlyn:-

            2012-13------ 19,086,
            2013-14 ------27,657

            2014-15-------32,657

            2015-16-------36,000

 

Mae’r ehangiad fesul cam hwn yn bwriadu arwain at gynnydd cymharol fach yn 2012-2013 gyda’r prif gamau ehangu yn cael eu cynllunio ar gyfer cyfnod 2013-16. Mae gan bob awdurdod lleol derfyn o ran nifer ar gyfer ei ardal bob blwyddyn h.y. y lleiafswm o blant y mae’n rhaid i’r rhaglen eu cefnogi yn yr awdurdod lleol hwnnw mewn unrhyw flwyddyn benodol.  Mae’r ffigurau uchod yn ymwneud â swm y terfynau ar gyfer pob awdurdod lleol.

 

Yn 2012-2013, cafodd 23,579 o blant fudd o wasanaethau Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg. Roedd yn cynnwys plant oedd wedi symud i mewn ac allan o ardaloedd Dechrau’n Deg.  Roedd hyn wedi rhagori ar y nifer targed o 19,086 ar gyfer y flwyddyn gyntaf o ehangu.

 

Mae ffigurau wedi dod ar gael yn ddiweddar ar gyfer Ebrill i Awst 2013 at ddibenion rheoli perfformiad mewnol.  Mae’r ffigurau yn dangos, yn y cyfnod pum mis hwn, fod 19,626 o blant wedi cael budd o wasanaethau Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg, sydd ar y trywydd iawn i gyflawni’r nifer a fwriedir o 27,657 dros y flwyddyn gyfan.

 

Ehangiad Cyfalaf

Mae cynlluniau ar gyfer ehangu yn dibynnu ar waith llwyddiannus o ddatblygu seilwaith i ddarparu gwasanaethau.  Yn anad dim, mae hyn yn cynnwys sefyllfa i gyflawni elfen gofal plant am ddim, rhan amser, o safon, o’r rhaglen, a lleoliadau i ddarparu cyrsiau rhianta a sesiynau iaith a chwarae.

 

Cyfanswm y prosiectau y bwriedir eu cyflawni yw 146, gan amrywio o ran maint, o waith adnewyddu bach i adeiladau newydd sbon sylweddol.

 

Mae gwaith wedi’i wneud ar nifer sylweddol o brosiectau y flwyddyn ariannol hon (2013-14) a disgwylir y bydd gwerth £13 miliwn o waith yn cael ei gynnal, gyda phrosiectau ym mhob awdurdod lleol yn cael eu cyflawni.  Erbyn mis Mawrth 2014, dylai tua 110 o brosiectau fod wedi’u cyflawni, gan adael nifer fechan o brosiectau i’w cwblhau yn 2014-15.

 

Erbyn diwedd 2015-16, byddwn wedi ariannu’r gwaith o ddatblygu lleoliadau er mwyn darparu cyfanswm o bron i 9,000 o leoedd gofal plant Dechrau’n Deg rhan amser o safon.

 

Un enghraifft o’r cyfleusterau newydd sy’n cael eu creu mewn cymunedau o ganlyniad i’r ehangiad cyfalaf Dechrau’n Deg yw’r prosiect £105,000 yn Sealand. Mae hyn wedi arwain at y ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg cyntaf erioed yn y gymuned hon gyda 24 o lefydd newydd.

 

Ymwelwyr Iechyd

Mae asesiad o ofynion yn awgrymu y byddai darparu gwasanaethau ymwelydd iechyd ar yr un lefel o lwyth achos a ddefnyddir ar hyn o bryd (h.y. un ymwelydd iechyd fesul 110 o blant) yn gofyn am adnodd ychwanegol o 160 o swyddi newydd i gyflawni’r ymrwymiad yn y maniffesto.  Ym mis Awst 2013, roedd 233.3 o swyddi ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn yn Dechrau’n Deg, sy’n cynrychioli 176.6 o swyddi newydd yn cael eu creu gan y Rhaglen Dechrau’n Deg. Cyfanswm y gweithlu targed o dan yr ehangiad yw 327 o swyddi ymwelydd iechyd cyfwerth ag amser llawn.

 

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG (Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd yn flaenorol) a darparwyr Addysg Uwch i recriwtio a hyfforddi ymwelwyr iechyd newydd. Rhwng mis Ebrill a Medi 2014, bydd 60 o ymwelwyr iechyd newydd yn cwblhau hyfforddiant a ddechreuodd yn 2013.  Bydd carfan 2014 yn recriwtio 30 o ymwelwyr iechyd dan hyfforddiant arall.  O 2015-2016, bydd hyfforddiant yn seiliedig ar lenwi swyddi gwag a grëwyd gan wastraff naturiol. Amcangyfrifir fod hyn yn 5% o staff y flwyddyn a bydd yn arwain at gael 15 o ymwelwyr iechyd dan hyfforddiant bob blwyddyn.  Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a chydweithwyr Gweithlu’r GIG er mwyn sicrhau fod Ymwelwyr Iechyd sy’n siarad Cymraeg ar gael ym mhob ardal ble mae eu hangen.

 

Allgymorth Dechrau’n Deg

Yn dilyn ymarfer ymgynghori gyda Rhwydwaith Dechrau’n Deg, mae elfen Allgymorth Dechrau’n Deg wedi bod yn canolbwyntio o’r newydd i integreiddio ymhellach gyda mentrau Teuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau yn Gyntaf a Threchu Tlodi.

 

Mae’r cyllid Allgymorth yn parhau i fod yn 20.5% o’r codiad.  Gall awdurdodau lleol bellach ddewis o gyfres o opsiynau ar gyfer cyflawni eu gwaith Allgymorth gan roi hyblygrwydd iddynt gyflawni elfennau penodol o’r rhaglen Dechrau’n Deg i unrhyw blentyn yn eu hawdurdod.

 

Gwerthuso Dechrau’n Deg

Mae Dechrau’n Deg yn amodol ar raglen gadarn o werthuso annibynnol ac mae cyfres o adroddiadau ar Werthusiad Cenedlaethol Dechrau’n Deg wedi’i chyhoeddi’n ddiweddar. Roedd yn cynnwys:

 

·         Canlyniadau o’r ail don o arolwg hydredol o dros 2,000 o deuluoedd gyda phlant rhwng 2 a 4 oed yng Nghymru.  Holwyd rhieni ynghylch rhianta, datblygiad eu plentyn, a gwasanaethau cymorth i deuluoedd yr oedd eu teulu wedi’u defnyddio tra’n magu eu plentyn;

·         Cynhaliwyd astudiaethau achos manwl gyda phob un o’r 22 o awdurdodau lleol Cymru ynghylch gweithredu a chyflawni’r rhaglen;

·         Cyfweliadau â rhieni sydd â llawer o anghenion am eu profiad o’r rhaglen a’r effaith a gafodd yn eu barn nhw.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth bwysig i ni am y gwaith o gyflawni rhaglen Dechrau’n Deg hyd yma a’i heffaith.

 

Gwnaeth canfyddiadau o’r gwaith ymchwil ansoddol ddangos tystiolaeth o holl ganlyniadau uniongyrchol disgwyliedig y rhaglen.  Mae hyn yn cynnwys datblygiad iaith, datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a chanlyniadau datblygiad gwybyddol i blant.  Roedd hefyd yn dangos effeithiau i rieni o ran ymddygiad rhianta, iechyd a lles a’u canfyddiadau o’r ardal leol.

 

Felly hefyd, roedd data ansoddol yn awgrymu bod plant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg â sgiliau iaith a gwybyddol tebyg a datblygiad emosiynol yn dilyn ymyrraeth â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd cymharol sydd llai o dan anfantais.

 

Trafodir rhai canfyddiadau allweddol yn ymwneud â phob elfen allweddol o Dechrau’n Deg isod:

 

·         Ymwelwyr Iechyd – nododd awdurdodau lleol fod y gymhareb llwyth gwaith ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg, o 1 ymwelydd iechyd i 110 o blant, sydd yn sylweddol llai na’r gwasanaeth ymwelwyr iechyd cyffredinol, yn galluogi plant Dechrau’n deg i gael nifer o fuddiannau.  Roeddent yn cynnwys: ymweliadau ychwanegol â’r cartref; asesiad mwy cynhwysfawr a chyflymach o angen; cymorth â ffocws sy’n canolbwyntio ar y teulu; ac atgyfeiriad at ystod eang o wasanaethau ychwanegol.  Roedd ymarferwyr ym mhob ardal Dechrau’n Deg yn awgrymu bod yr ymweliadau iechyd â theuluoedd yn hirach ac yn fwy dwys, ac mai hyn, yn hytrach na’r nifer cynyddol o ymweliadau, oedd yr allwedd i well darpariaeth.

 

·         Gofal plant – Mae Dechrau’n Deg wedi cael effaith gadarnhaol ar yr ystod a’r ansawdd o ddarpariaeth gofal plant.  Roedd y rhieni â llawer o anghenion a gyfwelwyd yn teimlo bod gofal plant Dechrau’n Deg wedi arwain at eu plant yn dangos gwell sgiliau cymdeithasol, yn dod yn fwy annibynnol a hyderus ac yn dysgu amrywiaeth o sgiliau llythrennedd a rhifedd.

 

·         Rhianta – Roedd 89% o rieni mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn nodi eu bod yn cael digon o gyngor a chymorth ar sut i ofalu am eu plentyn a’u cadw yn hapus ac iach.  Mae nifer o ardaloedd Dechrau’n Deg bellach wedi sefydlu continwwm o ddarpariaeth ar gyfer cymorth rhianta.  Mae hyn yn cynnwys rhaglenni i wella sgiliau a strategaethau rhianta ymysg rhieni â lefelau isel o angen a chymorth dwys i rieni sy’n wynebu heriau penodol.

 

·         Datblygiad Iaith Cynnar –Roedd nifer o rieni a gafodd eu cyfweld yn teimlo bod sesiynau Iaith a Chwarae wedi arwain at eu plentyn yn siarad yn amlach ac yn gliriach, gyda gwell geirfa gan roi cyfle i blant ymarfer eu Cymraeg.  Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod sesiynau Iaith a Chwarae yn aml yn rhoi cyfle i wneud gweithgareddau nad oedd teuluoedd yn eu gwneud gartref fel arfer, ac yn rhoi syniadau i rieni am ffyrdd creadigol a rhad i helpu eu plant i ddysgu.

 

Monitro Rhaglen Dechrau’n Deg yn Barhaus

Rydym wedi gweithredu system gynhwysfawr i gasglu data sy’n berthnasol i’r rhaglen.  Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno eu data rheoli perfformiad i Lywodraeth Cymru bob tymor ynghyd â’u cais am daliad.  Defnyddir y data hwn yn Llywodraeth Cymru i helpu i reoli perfformiad y rhaglen.

 

Caiff y data a gyflwynir ei goladu yn dilyn hynny i ‘ddangosfwrdd’ sy’n nodi perfformiad y rhaglen mewn fformat y gellir ei reoli ar sail Cymru gyfan ac ar lefel yr awdurdodau lleol unigol.

 

Neilltuir Rheolwr Cyfrif i bob awdurdod lleol sy’n cyfarfod â phob un o’u Cydlynwyr Dechrau’n Deg yn rheolaidd i drafod cynnydd ac unrhyw bryderon a allai fod gan unrhyw un.

 

Ers mis Hydref 2013 mae’r Rheolwyr Cyfrif wedi llunio Cynllun Gwella ar gyfer pob awdurdod lleol.  Cytunwyd ar y rhain gyda Chydlynydd Dechrau’n Deg yr awdurdod lleol, a’u defnyddio i nodi meysydd pryder ac amlinellu’r gweithgareddau maent yn eu cynnal i wella perfformiad.

 

Rydym hefyd yn monitro faint o bobl sy’n manteisio ar y ddarpariaeth gofal plant yn ardaloedd Dechrau’n Deg.  Mae gennym ymrwymiad i gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar ddarpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg i 95 y cant erbyn 2015.  Mae cerrig milltir interim ar drywydd y targed hwn hefyd wedi’u hanfon, i gynyddu faint sy’n manteisio ar ddarpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg i 85 y cant yn 2013 ac i 90 y cant yn 2014.  (Yn 2012-2013, manteisiwyd ar 90% o gynigion llawn neu ostyngedig o ofal plant mewn lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg, gan ragori ar y garreg filltir interim i gynyddu’r nifer i 85% erbyn 2013).

 

Asesiadau Datblygiad Plant

Caiff plant Dechrau’n Deg eu hasesu yn 2 oed a 3 oed gan ddefnyddio’r offeryn Asesiad Datblygu Atodlen o Sgiliau Tyfu 2.  Mae’r asesiadau datblygu yn rhoi syniad o a yw datblygiad plentyn yn agos i’r hyn sy’n arferol i blentyn o’r oed hwnnw, neu a oes angen cymorth ychwanegol.

 

Cesglir gwybodaeth am yr asesiadau drwy’r system casglu data y cyfeirir ato yn yr adran flaenorol.  Mae awdurdodau lleol bellach wedi cael targedau ar gyfer y gyfradd o asesiadau y dylid cael eu gwneud o fewn mis i ben-blwydd y plentyn.

 

Bydd y system fonitro a’r targedau ar gyfer asesiadau yn cael eu defnyddio i fonitro targed Dechrau’n Deg yn y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi, sef erbyn 2016, bydd yn cynyddu’r gyfradd o blant 3 oed sy’n defnyddio gwasanaethau Dechrau’n Deg sydd wedi cyflawni neu ragori ar eu cerrig milltir datblygiadol 5 pwynt canrannol.

 

Yn 2012-13, gwnaeth 55% o blant yn y rhaglen Dechrau’n Deg gyrraedd neu ragori ar eu cerrig milltir datblygiadol yn 3 oed, gan sefydlu hyn fel y sylfaen er mwyn mesur perfformiad y rhaglen yn y dyfodol a’r targed hwn.

 

Bwletin Ystadegau Crynodeb Dechrau’n Deg

Ym mis Medi 2013, cyhoeddwyd y bwletin Ystadegau Crynodeb Dechrau’n Deg cyntaf, sy’n darparu ystadegau cenedlaethol allweddol o’r rhaglen ar gyfer pob awdurdod yng Nghymru.

 

Roedd yr ystadegau a gasglwyd yn cynnwys data ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd, cysylltiadau ag ymwelwyr iechyd, lefelau imiwneiddio plant yn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn Dechrau’n Deg, a datblygiad plant sy’n defnyddio gwasanaethau Dechrau’n Deg (yn 2 a 3 oed).

 

Mae linc i’r Bwletin ar wefan Llywodraeth Cymru i’w gweld yma:

 

http://cymru.gov.uk/statistics-and-research/flying-start/?lang=cy

 

Roedd bwletin Ystadegau Crynodeb Dechrau’n Deg yn rhoi cyfle i fonitro perfformiad Awdurdodau Lleol ar ddangosyddion allweddol ac wedi canolbwyntio ein sylw ar feysydd gwaith lle gellir cyflawni gwelliant wrth ddarparu’r rhaglen.

 

Bwriedir cyhoeddi rhifyn nesaf y Bwletin ym mis Gorffennaf 2014.

 

Goblygiadau ar gyfer cyflawni

Bydd y canfyddiadau o holl weithgarwch ymchwil a gwerthuso ar y cyd â data monitro mewnol yn cael eu defnyddio i lywio canllaw’r rhaglen ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Dechrau’n Deg wrth i ni ehangu’r rhaglen.

 

Rydym eisoes wedi cychwyn ar ein hymateb i’r adroddiad gwerthuso drwy gynnal Digwyddiad Dysgu Cenedlaethol ar gyfer rhanddeiliaid fis Rhagfyr diwethaf. Gwnaeth y digwyddiad ddechrau ar y broses o gyd-ddysgu, cynnig cyfle gwerthfawr i ymateb yn uniongyrchol i’r canfyddiadau a’r argymhellion cadarnhaol, yn ogystal â’r rhai mwy heriol, sy’n deillio o’r adroddiadau gwerthuso.  Roedd y dull dysgu canolog yn darparu cynnig gwerthfawr i hysbysu a gwella’r gwaith o gyflawni Dechrau’n Deg yn y dyfodol.

 

Roedd y bwletin ystadegol “Ystadegau Crynodeb Dechrau’n Deg 2012-13” yn awgrymu, ar gyfartaledd, fod cyfraddau imiwneiddio mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn is na’r rhai mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau’n Deg (i blant sydd wedi’u himiwneiddio’n llawn erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed).  Roedd cyfraddau ar gyfer plant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn 76% ar gyfartaledd ledled Cymru, tra bod y cyfraddau i blant sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau’n Deg yn 82% ar gyfartaledd ledled Cymru.  Mewn ymateb i hyn, ym mis Ionawr 2014, cytunwyd fod cyllid o hyd at £200,000 ar gael i gefnogi gweithgarwch ychwanegol i wella cyfraddau imiwneiddio ymysg plentyndod yn ardaloedd Dechrau’n Deg.  Ymyrraeth dros dro yw hwn (Ionawr i Fawrth 2014) i wella cyfraddau imiwneiddio.  Yn y tymor hwy, byddwn yn ystyried gwaith pellach gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Gweithgareddau Cyfathrebu

Roedd canfyddiadau o’r adroddiadau gwerthuso yn amlygu’r amrywiad mewn gwybodaeth ymysg teuluoedd Dechrau’n Deg o’r gwasanaeth Dechrau’n Deg a gynigwyd.  I godi ymwybyddiaeth o’r hyn a gynigir o fewn ardaloedd Dechrau’n Deg presennol, ardaloedd ehangu ac ar draws y cyhoedd yng Nghymru yn ehangach, cytunwyd ar gyllid ar gyfer

 

·         Cynhyrchu tri chynhyrchiad DVD dwyieithog ar gyfer

 

o   Teuluoedd Dechrau’n Deg

o   Gweithwyr proffesiynol Dechrau’n Deg a chymorth i deuluoedd

o   Defnydd hyrwyddo cyffredinol

 

·         Ymgyrch cyfryngau hyrwyddo Dechrau’n Deg

 

·         Dylunio ac argraffu taflenni gwybodaeth ar Dechrau’n Deg

 

Roedd ymwybyddiaeth o’r rhaglen a rôl y gwahanol elfennau yn deillio o’r gwerthusiad fel maes ar gyfer gwella.  Bydd ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus hefyd yn cael ei lansio i helpu i hwyluso ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o elfennau o’r rhaglen ymysg ymarferwyr a rhieni cymwys.

 

Datblygiad Iaith Cynnar

Mae Datblygiad Iaith Cynnar yn elfen allweddol o Dechrau’n Deg, ac yn un o’r pedwar hawliad craidd ar gyfer Dechrau’n Deg.  Roedd canfyddiadau o’r Adroddiadau Gwerthuso yn amlygu mai dyna’r hawliad oedd yn cael ei ddeall lleiaf a’i ddefnyddio lleiaf yn y rhaglen.  Er mwyn gwella’r gwaith o gyflawni’r hawliad hwn ac i lywio datblygiad polisi ymhellach, mae dau adolygiad ymchwil yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gan Arad Research mewn partneriaeth â’r Ganolfan Iaith a Llythrennedd Genedlaethol (Prifysgol Reading):

 

·         Adolygiad o dystiolaeth ymchwil ar effeithiolrwydd gwahanol ddulliau i hyrwyddo datblygiad lleferydd ac iaith cynnar

 

·         Adolygiad o arfer wrth weithredu elfen cymorth datblygu iaith cynnar o fewn Dechrau’n Deg

 

Bydd yr adroddiadau terfynol ar gyfer y ddau adolygiad yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd mis Mawrth 2014.  Bydd canllawiau manwl yn cael eu datblygu yn seiliedig ar ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiadau hyn ac ymgynghoriad pellach â rhwydwaith Dechrau’n Deg.

 

Mae darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan ganolog o Dechrau’n Deg. Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd i sicrhau fod yna ddarpariaeth Gymraeg ddigonol ar draws y rhaglen, a cheir gofyniad ar Awdurdodau Lleol i ymateb i ddewis rhieni.

 

Bydd atodiad Datblygiad Iaith Gynnar yn cael ei ddatblygu ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg, a’i ddosbarthu i Awdurdodau Lleol erbyn Haf 2014.

 

Adroddiad Cynnydd ar Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru 2013

Rhoddodd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i adroddiad ar gynnydd a wnaed yn erbyn Strategaeth Tlodi Plant 2011. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd yn erbyn tri amcan strategol Strategaeth 2011, sef:

 

1) I leihau nifer y teuluoedd sy’n byw mewn aelwydydd di-waith.

 

2) I wella sgiliau rhieni/gofalwyr a phobl ifanc sy’n byw mewn aelwydydd ag incwm isel fel y gallant sicrhau cyflogaeth â chyflog da.

 

3) I leihau anghydraddoldeb sy’n bodoli mewn canlyniadau iechyd, addysg ac economaidd plant a theuluoedd drwy wella canlyniadau’r tlotaf.

 

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gyflawni’r ddyletswydd hon ar 29 Tachwedd 2013, drwy gyhoeddi Adroddiad Cynnydd ar Strategaeth Tlodi Plant Cymru.

 

Uchafbwyntiau’r Adroddiad Cynnydd ar Strategaeth Tlodi Plant 2013

 

Dull ehangach i drechu tlodi plant: Roedd Adroddid Cynnydd 2013 yn cydnabod, ers cyhoeddi’r Strategaeth Tlodi Plant ym mis Chwefror 2011, y bu cynnydd sylweddol yn y ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru, sefydliadau eraill y sector cyhoeddus a’r trydydd sector gydweithio i drechu tlodi plant.  Erbyn hyn mae dull ehangach i drechu tlodi plant - ac mae trechu tlodi plant yn gymaint i’w wneud â gwella lles plant ag y mae yn trechu tlodi incwm.  Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r targed o gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020 a gwneud popeth o fewn ei rymoedd i wella cyfleoedd bywyd plant sy’n byw mewn tlodi, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

 

Mae Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU wedi canmol Llywodraeth Cymru am ei ddull ehangach i drechu tlodi plant, gan groesawu ei hymgysylltiad â’r sector cyhoeddus a phartneriaid eraill ledled Cymru a’i Chynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.

 

Tlodi Plant o fewn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi: Mae’r Adroddiad Cynnydd yn ei gwneud yn glir sut mae Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi 2012 Llywodraeth Cymru a’r Cynllun Gweithredu Creu Cymunedau Cryf: Symud Ymlaen â'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi 2013 yn ategu Strategaeth Tlodi Plant 2011.  Mae Cynllun Gweithredu 2013 yn nodi cerrig milltir allweddol a thargedau sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu gwell canlyniadau i’r bobl hynny sy’n byw mewn tlodi. Mae’r cerrig milltir a’r targedau yn cynnwys ffocws cryf ar dlodi plant ac mae’n ategu amcanion Strategaeth Tlodi Plant 2011 - gyda phwyslais penodol ar atal tlodi yn y tymor hwy, helpu pobl allan o dlodi a lliniaru effaith tlodi.

 

Cynnydd a wnaed hyd at 2013: Mae peth cynnydd wedi’i wneud i drechu tlodi plant a gwella canlyniadau ers cyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant 2011: mae’r ganran o bobl sy’n byw mewn aelwydydd di-waith wedi lleihau ers 2009; mae’r ganran o oedolion o oed gweithio heb unrhyw gymwysterau yn parhau i leihau bob blwyddyn; a bu lleihad bychan yn y bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng y rhai sy’n gymwys i gael cinio ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys rhwng 2009-10 a 2011-12. Ar yr un pryd, mae’r ganran o enedigaethau byw gyda phwysau geni o dan 2,500g wedi parhau yn gymharol gyson rhwng 2008 a 2012, tra bod y gyfradd o Blant sy’n Derbyn Gofal wedi cynyddu bob blwyddyn o 2008 i 2013 (gan gyrraedd 91 plentyn fesul 10,000 yn 2013).  Rydym bellach wrthi’n mynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth am nifer y plant sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel sy’n cyrraedd cerrig milltir iechyd, cymdeithasol a datblygiad gwybyddol wrth ddechrau addysg ffurfiol.

 

Mae’n bwysig cydnabod, fodd bynnag, bod heriau sylweddol yn parhau. Mae effaith toriadau yn y gyllideb wedi gorfodi Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus cyfan i feddwl eto am ffyrdd o weithio. Mae’r blynyddoedd diweddar o economi gwastad, costau byw cynyddol a thoriadau i’r system lles yn debygol o wthio pobl ymhellach i dlodi. Serch hynny, rydym yn ddiysgog yn ein hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi plant, fel y dangoswyd yn y camau gweithredu unigryw rydym wedi’u nodi yn ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, sy’n cyd-fynd â’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol.  Mae ein Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi a’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cynnwys ffocws ar leihau’r nifer o bobl nad ydynt mewn gwaith, addysg a hyfforddiant.  Yn ogystal, gan gydnabod rôl allweddol gofal plant o ran cefnogi pobl i gyflogaeth, mae’r ddau gynllun yn cynnwys ymroddiadau i gefnogi cyflawniad gofal plant hygyrch a fforddiadwy.

 

Heriau o’n blaen i wneud cynnydd pellach: Er bod nifer o’r ysgogyddion ynghylch trechu tlodi plant yn perthyn i Lywodraeth y DU (er enghraifft, o ran newidiadau i’r system dreth a budd-daliadau), mae gan Lywodraeth Cymru, er hynny, rôl hanfodol i’w chwarae.  Un o’n prif heriau fydd cau’r bwlch cyrhaeddiad addysgol  a mynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad.  Bydd codi lefelau cyrhaeddiad yn cynyddu’r potensial i bobl ifanc ac oedolion gael swyddi â chyflog da. Bydd hyn yn helpu i leihau lefelau tlodi yn y gwaith, sydd wedi bod yn cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.

 

Yn ogystal â chau’r bwlch cyrhaeddiad addysgol, mae’r Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi wedi gofyn i Hyrwyddwyr Gwrth Dlodi Awdurdodau Lleol ganolbwyntio ar leihau nifer y plant a’r bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a lleihau nifer y babanod sy’n cael eu geni â phwysau geni isel.  Mae’r pwyslais ar leihau’r nifer o bobl ifanc nad ydynt yn ennill cyflog nac yn dysgu yn gyson â chyflawni’r deilliannau hynny trwy’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Mae’r pwyslais ar fabanod â phwysau geni isel yn mynd i’r afael â mater a nodwyd yn y rhan fwyaf o Gynlluniau Integredig Unigol Awdurdodau Lleol.  Mae hefyd yn flaenoriaeth yn Strategaeth Tlodi Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Bu ymateb cadarnhaol i’r cais hwn a bydd y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi yn cyfarfod yn rheolaidd â Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol i fonitro cynnydd ac annog y gwaith o rannu arfer gorau.

 

Dull o gydweithio: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydnabod na allwn drechu tlodi ar ein pen ein hunain.  Mae rôl y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn ehangach yn hanfodol.  Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda’n holl bartneriaid i gyflawni amcanion Strategaeth Tlodi Plant Cymru a Chynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Mae gan Hyrwyddwyr Gwrth Dlodi Awdurdodau Lleol (a sefydlwyd yn 2013) rôl bwysig i’w chwarae wrth gynnal momentwm yn lleol.  Mae’r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn cyfarfod â’r Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod y trydydd sector yn cael cyfle i amlygu materion a phryderon allweddol yn ymwneud â thlodi plant.

 

Gwerthuso’r Strategaeth Tlodi Plant: Mae gennym ffocws clir ar drechu tlodi fel llywodraeth gyfan, gan adeiladu ar dystiolaeth, gwerthuso ac arferion da dros y tair blynedd diwethaf.  Bydd adroddiad gwerthuso ar Strategaeth Tlodi Plant Cymru yn cael ei gyhoeddi erbyn Gwanwyn 2014.  Bydd Llywodraeth Cymru yn myfyrio ar y gwerthusiad ac yn parhau i wneud popeth o fewn ei grym i gynnig gwell cyfleoedd bywyd i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

 

Monitro cynnydd ymhellach: Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno adroddiad bob tair blynedd yn erbyn yr amcanion a nodwyd yn Strategaeth Tlodi Plant 2011. Hefyd, mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno adroddiad yn flynyddol ar gynnydd y targedau a’r cerrig milltir o fewn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.  Byddwn yn defnyddio’r dull adrodd hwn i dwyn ein hunain i gyfrif ar gyfer y camau gweithredu yr ydym wedi addo eu cyflawni.

 

Y diweddaraf ar y systemau/strwythurau ar waith i gydlynu materion trawslywodraethol yn ymwneud â thlodi plant.

Mae helpu teuluoedd difreintiedig yn flaenoriaeth trawslywodraethol – un o’r tair thema allweddol yn y Gyllideb

 

Cyflawnir y gwaith o gydlynu camau gweithredu trawslywodraethol ar dlodi plant drwy gyflawni’n Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.  Sefydlwyd Bwrdd Gweithredu Trechu Tlodi ble mae adrannau yn darparu diweddariadau am gynnydd yn erbyn targedau a’r cerrig milltir a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu. Mae’r Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi yn cadeirio’r Bwrdd Gweithredu (sy’n cyfarfod tair gwaith y flwyddyn), ac mae’r uwch swyddogion perthnasol o bob Adran o Lywodraeth Cymru hefyd yn mynychu. Ynghyd â’r Bwrdd Gweithredu, mae’r Dirprwy Weinidog hefyd yn cwrdd yn rheolaidd â Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru i drafod yr agenda trechu tlodi a chynnydd ar ymroddiadau yn y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi.

 

Mae rhwydwaith mewnol o Hyrwyddwyr Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru hefyd wedi’i sefydlu gyda’r nod o ganfod cyfleoedd ychwanegol i gydweithio, gan ganolbwyntio ar wella canlyniadau teuluoedd ag incwm isel.

 

Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Llywodraeth Cymru

Lansiwyd Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant cyntaf Cymru, Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair, ym mis Gorffennaf 2013.  Cafodd y Cynllun lawer o ganmoliaeth.  Mae’n nodi nifer o ganlyniadau yr ydym am eu cyflawni drwy gydol oes o 10 mlynedd y Cynllun a’r camau gweithredu a gymerir i helpu i gyflawni’r canlyniadau hynny.

Mae cynnydd eisoes yn cael ei wneud ar nifer o’r camau gweithredu, gan gynnwys:

-         Adolygiad o’r Gwaith o Reoli ac Arolygu Blynyddoedd Cynnar
Nod yr Adolygiad hwn yw datblygu system sy’n ategu ein huchelgais i wella safonau yn barhaus a, lle yn bosibl, lleihau beichiau ar awdurdodau lleol a darparwyr. Dechreuwyd yr Adolygiad ym mis Hydref 2013 ac mae’n cael ei arwain gan yr Athro Karen Graham.  Disgwylir yr adroddiad terfynol ym mis Mawrth 2014.

-         Datblygu Cynllun Gweithlu 10 Mlynedd
Bydd y cynllun yn nodi ein nodai hirdymor ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gofal plant a gweithlu chwarae yng Nghymru a bydd yn cynnwys cymwysterau, arweinyddiaeth, datblygiad proffesiynol parhaus a llwybrau gyrfaoedd. Mae Cyngor Gofal Cymru yn datblygu arolwg gweithlu i helpu i lywio’r gwaith hwn.

-         Archwiliad o’r Cyfnod Sylfaen
Dechreuwyd yr Archwiliad ym mis Medi 2013 ac mae’n cael ei arwain gan yr Athro Iram Siraj-Blatchford. Diben yr archwiliad yw edrych ar sut caiff y Cyfnod Sylfaen ei ddarparu a sut y gellir ei gryfhau. Disgwylir yr adroddiad terfynol ym mis Mawrth 2014.

-         Datblygu Rhaglen Iechyd a Lles Meddwl Plant Cymru Gyfan
Disgwylir i argymhellion terfynol y gweithgor arbenigol hwn gael eu cyflwyno i’r Prif Swyddog Nyrsio a’r Prif Swyddog Meddygol yn ddiweddarach y mis hwn (Ionawr).  Ymgynghorir â Byrddau Iechyd Lleol ynghylch y newidiadau sydd eu hangen i weithredu’r argymhellion, gyda chynllun ar waith erbyn diwedd mis Mawrth 2014.  Yna byddwn yn gweithredu yn y flwyddyn ariannol 2014-2015.

 

Hefyd, gyda chefnogaeth y Cabinet, sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth y Blynyddoedd Cynnar i weithio ar gamau gweithredu penodol ar lefel uchel mewn ffordd sy’n cefnogi cyd-gynhyrchu/cyd-lunio atebion/syniadau.  Caiff y Bwrdd ei gyd-gadeirio gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth leol, y sector gwirfoddol, byrddau iechyd lleol, sefydliadau gofal plant a chwarae, ac academyddion.  Y cam gweithredu cyntaf yw bod y Bwrdd yn arsylwi ac yn cynghori ar y gwaith o ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Blynyddoedd Cynnar.

 

Gofal plant

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gofal plant i ddatblygiad y plentyn ac i gefnogi rhieni sy’n gweithio.  Mae gwella mynediad i ofal plant fforddiadwy o safon yn flaenoriaeth allweddol.  Mae darparu gofal plant o safon uchel yn chwarae rôl hanfodol o ran cyflawni Ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu.  Mae’n galluogi rhieni i weithio neu ddilyn hyfforddiant, ac yn cefnogi ein hysgogiad i gynyddu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldeb.

 

Y Grant Cynnal Refeniw yw’r brif ffrwd ariannu refeniw i lywodraeth leol yng Nghymru tra bod grantiau penodol fel y Grant Gofal Plant y Tu Allan i Ysgol yn helpu Awdurdodau Lleol i fynd i’r afael â bylchau mewn darpariaeth gofal plant yn eu hardaloedd.  Mae £2.3 miliwn y flwyddyn ar gael i awdurdodau lleol ers 2012 drwy’r Grant, sy’n cefnogi’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu gofal plant cofleidiol a chwarae y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod y gwyliau.

 

Gall y grant helpu i gyflawni ystod o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a’r Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi, gan ei fod yn hwyluso rhieni a gofalwyr i weithio, hyfforddi neu astudio ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

 

Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, mae Awdurdodau Lleol yn defnyddio’r grant ar hyn o bryd i ganolbwyntio ar gynnig gofal plant y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys cynlluniau chwarae yn y gwyliau, i blant o deuluoedd incwm isel, neu blant sydd ag angen penodol.

 

Mae grantiau i gychwyn arni a chynaliadwyedd hefyd yn cael eu darparu i hyrwyddo, annog a chynnal darpariaeth gofal plant, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.  Mae cymorth ariannol drwy’r cynllun grant hwn hefyd yn cael ei ddarparu i ddarpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mae’r grantiau allweddol o’r Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant sy’n cael eu cymryd i gyflawni blaenoriaethau gofal plant Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

 

 

Teuluoedd yn Gyntaf

Teuluoedd yn Gyntaf yw cyfrwng Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ei huchelgeisiau ar gyfer cefnogaeth i deuluoedd.  Drwy gydol y rhaglen rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol ddatblygu a gweithredu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar y teulu sy’n hyrwyddo ymyriadau cynnar yn seiliedig ar system amlasiantaeth o gefnogaeth i deuluoedd, yn enwedig y rhai sydd mewn tlodi neu sydd mewn perygl i symud i dlodi.  Drwy Teuluoedd yn Gyntaf, rydym yn gyrru’r gwaith o ddatblygu ffyrdd strwythuredig o drechu a, lle yn briodol, achub y blaen at broblemau teuluoedd cyn gynted â phosibl, gan ddefnyddio’r ymyriadau mwyaf priodol.

 

Mae Teuluoedd yn Gyntaf wedi bod yn weithredol ym mhob awdurdod lleol ers 2012 a chaiff ei ariannu drwy grant wedi’i bennu ar £47.15 miliwn y flwyddyn ariannol hon (2013-14).  Mae’r rhaglen hon wedi arwain at sefydlu Tîm o Amgylch y Teulu ym mhob awdurdod lleol a datblygu Fframwaith Asesu’r Teulu ar y Cyd.  Cefnogir y newidiadau system hyn gan wasanaethau a phrosiectau cymorth i deuluoedd sydd wedi’u comisiynu’n strategol, ac ymrwymiad i ddysgu cyffredin a fydd yn dwysáu ein gwybodaeth yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.  Ymhellach, rydym wedi neilltuo arian i sicrhau bod pob cynllun gweithredu lleol yn cynnwys ffocws ar anabledd o fewn eu rhaglen a fydd yn parhau drwy gydol tymor y Cynulliad.

 

Caiff y gronfa ei monitro’n agos drwy fframwaith rheoli perfformiad cryf, sy’n cynnwys tair elfen: 

 

·         dull atebolrwydd yn seiliedig ar ganlyniadau gyda phedwar canlyniad, wedi’u hategu gan 16 o ddangosyddion poblogaeth, pob un wedi’i gytuno gydag awdurdodau lleol

 

·         Fframwaith Mesurau Perfformiad Newid Proses sy’n dangos i ba raddau y mae prosesau a systemau wrth ddarparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd wedi newid ac yn parhau i newid ers cyflwyno Teuluoedd yn Gyntaf

 

·         Offeryn Canlyniadau Teuluoedd, a fydd yn asesu effaith Teuluoedd yn Gyntaf ar Deuluoedd sydd wedi mynd drwy’r rhaglen, gan ddefnyddio data o offer pellter teithio a/neu eu Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd

 

Caiff y wybodaeth a gasglwyd drwy’r fframwaith monitro ei hategu gan ganlyniadau ein gwerthusiad annibynnol.  Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf fis Rhagfyr diwethaf ac mae’n darparu adborth hanfodol am weithredu a chyflawni’r rhaglen. Gwnaeth y gwerthusiad gadarnhau fod rhanddeiliaid cenedlaethol a lleol yn cynllunio’r gwaith o ddylunio pum elfen allweddol y rhaglen sy’n mynd i’r afael â bylchau neu aneffeithlonrwydd yn y ffyrdd blaenorol o weithio.  Gwnaeth y gwerthusiad adrodd ar elfennau craidd y rhaglen fel a ganlyn:

 

·         Erbyn haf 2013, roedd rhyw ffurf ar y Tîm o Amgylch y Teulu yn cael ei gynnal ym mhob awdurdod lleol heblaw un.  Credwyd fod Tîm o Amgylch y Teulu yn hwyluso’r gwaith o rannu gwybodaeth ar draws disgyblaethau ac roedd paneli Tîm o Amgylch y Teulu i’w gweld yn fwy ymatebol i anghenion teuluoedd na threfniadau blaenorol.

 

·         Cafodd dull Fframwaith Asesu’r Teulu ar y Cyd ei weithredu’n llawn yn 18 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac wrthi’n cael ei ddatblygu yn y pedwar arall. Nodwyd fod y Fframwaith yn helpu teuluoedd i ymgysylltu’n fwy effeithiol oherwydd eu bod yn cymryd rhan weithgar yn y broses asesu, sy’n mesur cryfderau yn ogystal ag anghenion.  Roedd y Fframwaith hefyd yn cynnig iaith gyffredin i dimau a dull strwythuredig ar gyfer cofnodi a rhannu gwybodaeth.

 

·         Roedd awdurdodau lleol yn adrodd bod comisiynu strategol yn hyrwyddo gwell gweithio amlasiantaeth a diwylliant yn seiliedig ar ganlyniadau.  Gwnaeth Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ganmol y gwaith o eirioli comisiynu prosiectau ymyrraeth gynnar.

 

Mae’r ffocws ar anabledd yn helpu i flaenoriaethu a diogelu gwasanaethau a allai fel arall gael eu torri ar gyfnod lle mae cyllidebau yn cael eu lleihau.  Mae prosesau asesu a chyfeirio newydd a rhannu data yn well ar draws asiantaethau yn helpu i ganfod mwy o deuluoedd yn gynt.  Ymddengys hefyd fod gan asiantaethau well mynediad i’r wybodaeth yr oeddent ei hangen er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol i deuluoedd.  Wrth ddatblygu’r llinyn hwn o Teuluoedd yn Gyntaf, buom yn gweithio gydag ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru.  Mae’r Grŵp bellach wedi dod i ben gan eu bod yn ystyried eu bod wedi cyflawni eu nodau uniongyrchol.  Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau plant anabl fel fo’n briodol.

 

·         Ystyriwyd Setiau Dysgu i ddarparu amser a lle gwerthfawr i ymarferwyr rannu gwybodaeth a myfyrio ar eu harfer.  Gwerthfawrogwyd hefyd fod setiau dysgu amlasiantaeth hefyd yn galluogi mynd i’r afael â materion ar draws awdurdodau. Bydd y setiau dysgu yn parhau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.  Mae’r tîm gwerthuso yn gweithio’n agos i gefnogi’r broses hon ac i ddosbarthu’r dysgu a rennir trwy wefan benodol.  Y nod yw i’r elfen hon o’r rhaglen fod yn ymatebol ac wedi ei chofnodi’n dda.

 

Canfu’r Tîm Gwerthuso Teuluoedd yn Gyntaf, erbyn mis Mawrth 2013, fod 1,867 o Fframweithiau Asesu'r Teulu ar y Cyd wedi cychwyn ledled Cymru, a bod 1,557 o gynlluniau gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu ar waith.

 

Hefyd, mae data a gasglwyd drwy’r Fframwaith Mesurau Perfformio Newid Proses ar gyfer chwarteri 1 a 2 blwyddyn ariannol 2013-14 yn dangos, yn chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol, fod cyfanswm o 1,492 o Fframweithiau Asesu'r Teulu ar y Cyd wedi cychwyn, a bod 727 o gynlluniau gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu ar waith.

 

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i bwyso a mesur y cynnydd ym mhob maes o’r rhaglen, a nodi sut y dylai hyn gael ei adlewyrchu yn ein canllawiau Teuluoedd yn Gyntaf.

 

Ariannu Teuluoedd yn Gyntaf.

 

Teuluoedd yn Gyntaf

2013-14

2014-15

2015-16

BEL Refeniw

£47.2

£46.9

£44.6

 

Rydym yn ymrwymedig i gynnal y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ystod y tymor Cynulliad hwn a byddwn yn buddsoddi £46.9 miliwn yn 2014-15.  Mae hwn yn ostyngiad o £0.75 miliwn sydd ei angen yn 2014-15 ond bydd yn cael ei dalu heb ostyngiad i grant Teuluoedd yn Gyntaf. Yn benodol, mae hyn yn golygu bod y cymorth wedi’i neilltuo i deuluoedd â phlant anabl yn parhau ar y lefelau a gynlluniwyd.  Gellir talu am y gostyngiadau yn 2014-15 o’r gwariant a gynlluniwyd ar feysydd polisi nad ydynt wedi’u datblygu’n llawn eto, neu gellir eu gohirio nes y bydd cyllideb ar gael.

 

Byddwn yn cario’r gostyngiad yng nghyllideb Teuluoedd yn Gyntaf o £0.75 miliwn o 2014-15 ymlaen ac yn gweld gostyngiad pellach o £2.3 miliwn yn 2015-16.  Canfyddir hyn gan leihau’r dyraniadau grant i awdurdodau lleol ar gyfer grant Teuluoedd yn Gyntaf.  Mae hyn yn debygol o arwain at nifer o ostyngiadau mewn gwasanaethau i blant a theuluoedd ac mae’n debygol y bydd effaith ar unigolion a theuluoedd o’r grwpiau â nodweddion a ddiogelir.  Mae hyn yn adlewyrchu realiti’r heriau cyllidebol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu.  Mae’r gyllideb yng Nghymru wedi wynebu toriadau digynsail – erbyn 2015-16 bydd ein cyllideb bron i £1.7biliwn yn is nag yr oedd yn 2010-11.

 

Chwarae

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth mawr ar bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant ac yn cydnabod y buddion y mae’n rhoi i’w hiechyd, hapusrwydd a lles.  Mae hefyd yn bwysig ar gyfer gosod sylfeini pob plentyn i gyflawni eu potensial llawn yn ystod eu bywyd fel oedolion.  Mae’n un o ymrwymiadau ein maniffesto i barhau i wella cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc chwarae yn ddiogel ac, yn benodol, byddwn yn cefnogi gwell mynediad chwarae i blant ag anableddau.

 

Asesiadau Cyfleoedd Chwarae Digonol

Yn ystod mis Mawrth 2013, cafodd Llywodraeth Cymru Asesiadau Cyfleoedd Chwarae Digonol gan bob awdurdod lleol yng Nghymru.  Mae’r rhain bellach wedi creu llinell sylfaen o amrywiaeth eang o ffactorau sy’n effeithio ar gyfleoedd plant i chwarae, gan ddangos cryfderau a diffygion ym mhob ardal.

 

Maent hefyd yn asesu i ba raddau y mae’r cyfleoedd ar gael i bob plentyn gan gynnwys y rhai sy’n byw mewn teuluoedd incwm isel.  Mae’r cynlluniau gweithredu yn dangos y camau gweithredu i gynnal cryfderau a gwella o ran diffygion.

 

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu o ran chwarae ac mae hynny’n cyd-fynd yn dda â Sylw Cyffredinol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar Erthygl 31.  Mae’n pwysleisio hawl pob plentyn i gael gweithgareddau gorffwys, chwarae, hamdden a diwylliannol.

 

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a phob partner a ffyrdd i weithredu’r cynlluniau i wella cyfleoedd chwarae i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

 

Arian ar gyfer Chwarae

Er mwyn helpu Awdurdodau Lleol i weithredu eu cynlluniau gweithredu chwarae, mae’r Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi wedi cytuno i ddyrannu £1.25 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i wella cyfleoedd chwarae i blant yn eu hardaloedd.

 

Mae’r Dirprwy Weinidog ar hyn o bryd yn ystyried ffyrdd i ddechrau aril ran adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a fydd yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol yn eu hardaloedd i blant, cyhyd ag sy’n ymarferol yn rhesymol, gan ystyried eu hasesiadau chwarae. Bydd y Dirprwy Weinidog mewn sefyllfa i ddarparu mwy o wybodaeth ynglŷn â hyn o fewn y 2 wythnos nesaf.

 

Cymunedau yn Gyntaf

Mae Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn hanesyddol wedi canolbwyntio ar weithio gyda Phlant a Phobl Ifanc ac mae hyn wedi’i gryfhau wrth ailffocysu’r Rhaglen.

 

Yn dilyn ymgynghoriad yn 2011, cafodd Cymunedau yn Gyntaf ffocws newydd fel Rhaglen Trechu Tlodi sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned gyda thri chanlyniad strategol:  Cymunedau Iach, Cymunedau sy’n Dysgu a Chymunedau Llewyrchus.

 

Mae’r Rhaglen yn cefnogi’r bobl sydd o dan fwyaf o anfantais yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru gyda’r nod o gyfrannu at y gwaith o liniaru tlodi parhaus a chanolbwyntio ar y camau gweithredu hynny y gellir eu cynnal, gyda chefnogaeth y gymuned, sy’n cael yr effaith fwyaf ar addysg/sgiliau, canlyniadau economaidd ac iechyd, gan arwain yn y pen draw at gynaliadwyedd a lles hirdymor cymunedau.

 

Mae’r rhaglen yn ceisio lleihau’r bylchau addysg/sgiliau a’r bylchau economaidd ac iechyd rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a chyfoethog drwy:

 

·         gefnogi unigolion, teuluoedd a grwpiau o bobl sydd â’r addysg/sgiliau a chanlyniadau economaidd ac iechyd gwaethaf

·         helpu’r rhai lle mae amddifadedd wedi crynhoi fwyaf

·         cynyddu sgiliau bwyd, hunan hyder a hunanddibyniaeth unigolion, gan gynnwys eu gallu ariannol

·         cefnogi a chryfhau’r gweithgarwch lleol sy’n gwneud mwyaf i drechu tlodi ac amddifadedd.

 

Erbyn hyn mae 52 o glystyrau Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru, sydd fel arfer yn cwmpasu poblogaeth o tua 10,000-15,000 o bobl.  Mae nifer o glystyrau, er enghraifft yng Nghaerdydd, yn sylweddol fwy gan gwmpasu poblogaethau o dros 25,000.

 

Mae pob clwstwr yn canolbwyntio ar y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi’r unigolion, teuluoedd a grwpiau mwyaf difreintiedig yn yr ardaloedd hyn (yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru  2011), Mae’r 52 clwstwr hyn yn ymwneud â thua 24% o’r boblogaeth yng Nghymru.

 

Er bod perthynas weithio gryf eisoes ar waith rhwng rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg, cydnabyddir bod angen gwneud mwy. Mae yna ddisgwyliad clir y bydd y rhaglenni hyn yn fwy cydlynol trwy fwriad ac na ddylid gadael hyn i siawns.  Mae’r rhaglen hon wedi ei chynllunio i ddylanwadu ar a gwella cyflawniad gwasanaethau a chyfleoedd mawr ac nid ydynt yn bodoli mewn gofod hunangynhwysol.  Sicrhawyd cyllid gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i wella’r gwaith o alinio a chynllunio ar draws y rhaglenni ac mae hyn yn cael ei wneud gan 4 swydd ranbarthol gyda chymorth Llywodraeth Cymru.  Er bod y gwaith dysgu a gwella hwn yn canolbwyntio ar yr Ardaloedd Cydgyfeirio, bydd yn cael ei ledaenu ledled Cymru.

 

Bydd y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi hefyd yn cynnal pedwar digwyddiad rhanbarthol ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol, Hyrwyddwyr Gwrth dlodi, Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf i helpu alinio gweithgareddau i sicrhau gwell deilliannau.

Gwnaeth Creu Cymunedau Cryf – Symud Ymlaen â'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2013, ymrwymiad i sefydlu rhaglen newydd i Drechu Aelwydydd Di-waith. Bydd y rhaglen “Lifft” yn canolbwyntio ar aelwydydd lle nad oes unrhyw un wedi gweithio am dros 6 mis a bydd yn y pen draw yn cefnogi teuluoedd lle mai digartrefedd yw’r ffactor sylweddol mewn cysylltiad â thlodi, cylch amddifadedd a dyheadau pobl ifanc.  Mae’r rhaglen bellach yn cael ei sefydlu mewn wyth ardal beilot a bydd yn darparu cymorth dwys a mentora i helpu aelwydydd i gael cyflogaeth a’i chynnal. Ardaloedd y Rhaglen Lifft yw:

 

Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf Môn – Ynys Môn

Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin – Sir Gaerfyrddin

Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf Gogledd-orllewin Abertawe – Abertawe

Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf Cwm Afan – Castell-nedd Port Talbot

Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf Taf – Rhondda Cynon Taf

Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf  Dwyrain Caerdydd – Caerdydd

Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf Basn Caerffili - Caerffili

Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf Tredegar ac Ebwy Fawr – Blaenau Gwent

 

Ym mis Tachwedd 2013, cyhoeddodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi estyniad i’r rhaglen am oes y Llywodraeth bresennol yn amodol ar werthusiad a chyfyngiadau cyllidebol yn y dyfodol.  Comisiynwyd gwerthusiad o Cymunedau yn Gyntaf a bydd adroddiad terfynol ar gael ddiwedd yr haf 2014.  Mae’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau o dan ganlyniadau ‘cymunedau iach’ (e.e. tyfu eich hun, dosbarthiadau coginio iach, grwpiau ymarfer corff), ‘cymunedau llewyrchus’ (gwneud pobl yn addas ar gyfer y gweithle ac yn gallu cael swyddi, rheoli arian), a ‘cymunedau sy’n dysgu’ (gwella sgiliau sylfaenol, helpu pobl ifanc i ddysgu a chefnogi rhieni i gymryd mwy o ran yn addysg eu plentyn).  Mae Cymunedau yn Gyntaf yn annog pob prosiect i fod yn gyfannol o ran ei ddull., Er enghraifft, anogir prosiectau iechyd, cynlluniau hyfforddiant a’r rhai sy’n gwneud pobl ifanc yn addas ar gyfer gwaith i weithio gyda rhwydweithiau lleol, ysgolion a sefydliadau’r trydydd sector.

 

Cymunedau sy’n Dysgu

 

Caiff y canlyniad hwn ei gefnogi’n gryf yn y Cynlluniau Gweithredu a nodir gan bob Clwstwr.  Mae’r prosiectau sy’n cefnogi’r canlyniad hwn yn cynnwys:

-       clybiau gwaith cartref

-       grwpiau babanod sy’n canolbwyntio ar wneud plant yn barod am yr ysgol

-       dosbarthiadau llythrennedd a rhifedd yn fwy cyffredinol ond hefyd i blant a rhieni astudio gyda’i gilydd

-       cynlluniau gwella sgiliau sylfaenol, gan gynnwys cynlluniau i bobl ifanc sy’n agored i niwed, plant o leiafrifoedd neu grwpiau anodd eu cyrraedd

-       cynlluniau sy’n anelu at wella lefelau cyrhaeddiad yng nghyfnodau allweddol 2, 3 a 4

-       dysgu i oedolion a gwella sgiliau sylfaenol oedolion gan gynnwys technoleg gwybodaeth

 

Disgwylir i glystyrau gael cysylltiadau gwaith cryf gyda darparwyr allweddol a sefydliadau hyfforddiant, yn enwedig ym maes dysgu i oedolion.

Mae’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cefnogi dros 100 o swyddi sy’n canolbwyntio ar ddysgu ac addysg gan gynnwys mentrau dysgu i deuluoedd. Mae gwerth y swyddi yn fwy na £6 miliwn ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mawrth 2015.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu mentrau Gwella Rhaglen sy’n darparu adnoddau ychwanegol, gan gynnwys arian a staff, i gyflawni blaenoriaethau allweddol mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf mewn partneriaeth ag adrannau eraill y Llywodraeth, Cyrff a Noddir gan y Llywodraeth ac asiantaethau partner. Gwelir rhai enghreifftiau isod.

 

1.    Cronfa Cyfateb Grant Amddifadedd Disgyblion Cymunedau yn Gyntaf

 

Mae Cronfa Cyfateb Grant Amddifadedd Disgyblion Cymunedau yn Gyntaf yn cynnig £3 miliwn i Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf i ymateb yn erbyn Cronfa Cyfateb Grant a ddyrennir i’w hysgolion lleol. Mae’r Gronfa yn cefnogi gwell gweithio rhwng ysgolion a Chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf i wella canlyniadau pobl ifanc sy’n byw mewn tlodi a gwella ymgysylltiad eu rhieni/gofalwyr. Bydd y Gronfa yn cefnogi prosiectau sy’n ceisio:

 

-       Gwella ymgysylltiad cymunedol mewn ysgolion

-       Helpu plant i wneud yn dda yn yr ysgol

-       Trawsnewid rhwng ysgolion

-       Gwella ymgysylltiad teulu yn addysg eu plant.

 

Gwahoddwyd prosiectau i gyflwyno ceisiadau a oedd yn cyflawni’r nodau hyn drwy weithio ar y blaenoriaethau canlynol, a nodwyd yn Fframwaith Canlyniadau Cymunedau yn Gyntaf:

 

-       Hyrwyddo Dysgu Teuluoedd yn y Blynyddoedd Cynnar

-       Helpu Pobl Ifanc i Wneud yn Dda yn yr Ysgol

-       Helpu Teuluoedd i Ymgysylltu yn Addysg eu Plant

 

Mae’r Gronfa yn adeiladu ar arfer da ac yn meithrin cysylltiadau cryfach rhwng cymunedau ac ysgolion o ran mynd i’r afael â chanlyniadau cyffredin trechu tlodi a’i effaith ar gyrhaeddiad addysgol pobl ifanc.  Bydd y gronfa yn benodol yn annog arloesedd ac ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth a chydweithio rhwng clystyrau Cymunedau yn Gyntaf, gan weithio gydag ysgolion uwchradd lleol ac ysgolion cynradd sy’n bwydo’r ysgol uwchradd honno.  Fel rhan o’r broses ymgeisio, rhoddwyd canllaw i bob ardal gyda ffynonellau gwybodaeth gan gynnwys Pecyn Cymorth Ymddiriedolaeth Sutton.  Roedd y Canllaw Grant Amddifadedd Disgyblion a anfonwyd i ysgolion hefyd yn cyfeirio at y cyfleoedd i ysgolion weithio gyda chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf.

 

Mae’r gronfa yn ceisio cynyddu nifer yr ysgolion sy’n gweithio gyda chlystyrau gan adeiladu ar berthnasau gwaith da sydd eisoes yn bodoli o fewn clystyrau Cymunedau yn Gyntaf lle mae’r gwaith hwn eisoes yn digwydd.  Yn nifer o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, roedd angen cymorth pellach i adeiladu ar y perthnasau hyn.  Mae nifer o resymau dros hyn, gan gynnwys anawsterau a brofwyd gan rai ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn datblygu eu clystyrau a’r byr rybudd cymharol wrth gyflwyno arian Grant Amddifadedd Disgyblion yn ystod y broses o ddatblygu Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf.  Gwnaed 15 cymeradwyaeth yn y rownd gyntaf o geisiadau. Gofynnwyd i ymgeiswyr y gronfa baratoi eu ceisiadau yn erbyn y mesurau canlynol.

 

Hyrwyddo Teuluoedd sy’n Dysgu yn y Blynyddoedd Cynnar

-       Rhieni sy’n teimlo eu bod yn gallu ymdopi’n well

-       Rhieni sy’n deall yn well y pwysigrwydd o ddysgu’n gynnar

-       Rhieni yn darllen yn rheolaidd â phlentyn

 

Cefnogi Pobl Ifanc i Wneud yn Dda yn yr Ysgol

-       Disgyblion sy’n teimlo’n fwy cadarnhaol am yr ysgol

-       Disgyblion â gwell ymddygiad yn yr ysgol

-       Disgyblion â gwell presenoldeb yn yr ysgol

-       Disgyblion yn cyflawni’n well yn yr ysgol

 

Cefnogi Teuluoedd i Ymgysylltu yn Addysg eu Plant

-       Rhieni yn cael cymhwyster

-       Rhieni yn teimlo’n fwy hyderus i helpu eu plant

-       Rhieni yn teimlo bod eu plentyn yn ymdopi’n well yn yr ysgol

-       Rhieni yn ymgysylltu â’r ysgol yn fwy

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael o Gyllideb Cyfateb Cymunedau yn Gyntaf yw £1 miliwn y flwyddyn ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.  Daeth mynegiant o ddiddordeb i law ar 1 Mawrth 2013 ar gyfer rownd 2013-14.  Roedd y ceisiadau yn llawer mwy na’r cyfanswm o arian sydd ar gael.  Cafodd 23 o geisiadau arian o tua £1.8 miliwn dros ddwy flynedd ariannol.

 

Y rownd nesaf o arian yw ar gyfer 2014-15 a chyflwynwyd y mynegiant o ddiddordeb ym mis Hydref 2013.  Roedd y rownd hon yn gyfyngedig i’r rhai na chafodd arian yn y rownd gyntaf, a disgwylir y canlyniadau yn fuan.

 

 

2.    Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

 

Mae ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn parhau i fod yn darged penodol ar gyfer Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac mae swyddogion wedi trafod y newidiadau i raglen Cymunedau yn Gyntaf ac ariannu Addysg Uwch a’r goblygiadau ar gyfer targedau yn y dyfodol ynghylch recriwtio Addysg Uwch o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

 

3.    Addysg Bellach

 

Mae’r blaenoriaethau strategol a nodwyd ar gyfer 2014/15 yn cynnwys cynyddu datblygiad a chefnogaeth i’r dysgwr.  Disgwyliwn i golegau uchafu llwybrau datblygiad i gymwysterau lefel 3 ac addysg, Hyfforddiant a chyflogaeth lefel uwch.  Dylent hefyd helpu pobl i drechu effaith negyddol amddifadedd cymdeithasol ac economaidd ar addysg a hyfforddiant, gan ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol i alluogi dysgwyr i gwblhau eu hastudiaethau.

 

Mae Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf yn ymgysylltu gydag amrywiaeth o ddarparwyr AB, yn cynnwys colegau, prifysgolion, hyfforddwyr ac achredwyr, er enghraifft Rhwydwaith y Coleg Agored.  Mae clystyrau yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau gyda phobl ifanc gyda’r nod o ddatblygu sgiliau a gallu i ganiatáu i bobl ifanc fynd i Addysg Bellach.  Mae prosiectau Clwstwr eraill yn gweithio gyda phobl ifanc mewn lleoliadau ysgolion i wella canlyniadau arholiadau er mwyn caniatáu mynediad at Addysg Bellach ac i atal pobl ifanc rhag dod yn NEET.

 

4.    Twf Swyddi Cymru

 

Yn ogystal, mae Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cefnogi 750 o gyfleoedd cyflogaeth Twf Swyddi Cymru ychwanegol, gan dargedu’n benodol pobl ifanc o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf. Cafodd y prosiect Cynghorwyr Teulu Rhieni llwyddiannus rhwng Cymunedau yn Gyntaf a’r Ganolfan Byd Gwaith ei dreialu mewn pedair ardal ac yn dilyn gwerthusiad mae bellach yn cael ei heangu i wyth clwstwr arall er mwyn parhau i gefnogi teuluoedd i mewn i waith.

 

Babanod â Phwysau Geni Isel ac Imiwneiddio

 

Mewn cysylltiad â Babanod â Phwysau Geni Isel, mae’r Rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf yn ariannu nifer o fentrau yng Nghymru sy’n edrych ar sgiliau rhianta cyn ac ar ôl geni.  Mae’r prosiectau yn cynnwys dysgu mamau beichiog am y pwysigrwydd o fwyta’n iach, ymarfer corff, rhoi’r gorau i ysmygu ac yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd. Mae’r prosiect yn helpu mamau beichiog i ddeall sut mae eu ffordd o fyw yn effeithio ar eu babi.

 

Mae rhai prosiectau hefyd yn gweithio gyda darpar dadau i sicrhau bod cefnogaeth ehangach i’r fam a’r plentyn.

 

Mae prosiectau hefyd yn gweithio gyda mamau beichiog i’w gwneud yn ymwybodol o’u hopsiynau mewn cysylltiad â geni, bwydo ar y fron ac imiwneiddio.  Mae prosiectau fel hyn yn canolbwyntio ar iechyd ond hefyd yn canolbwyntio ar ddysg, magu hyder, chwalu mythau a chamsyniadau (yn enwedig ynghylch imiwneiddio) a datblygu rhwydwaith cefnogi cymdeithasol i famau, tadau a chymunedau.